agw. Lefiticus 23:33-43; Deuteronomium 16:13-17
fcyfeiriad at 2 Samuel 7:12; Salm 89:3-4 a Micha 5:2

John 7

Iesu'n mynd i Ŵyl y Pebyll

1Wedi hyn aeth Iesu o gwmpas Galilea. Roedd yn cadw draw yn fwriadol o Jwdea am fod yr arweinwyr Iddewig yno am ei ladd. 2Ond pan oedd Gŵyl y Pebyll a (un arall o wyliau'r Iddewon) yn agos, 3dyma frodyr Iesu'n dweud wrtho, “Dylet ti adael yr ardal hon a mynd i Jwdea, i'r dilynwyr sydd gen ti yno gael gweld y gwyrthiau wyt ti'n eu gwneud! 4Does neb sydd am fod yn ffigwr cyhoeddus amlwg yn gweithredu o'r golwg. Gan dy fod yn gallu gwneud y pethau hyn, dangos dy hun i bawb!” 5(Doedd hyd yn oed ei frodyr ei hun ddim yn credu ynddo.)

6“Dydy hi ddim yn amser i mi fynd eto” meddai Iesu wrthyn nhw, “ond gallwch chi fynd unrhyw bryd. 7Dydy'r byd ddim yn gallu'ch casáu chi, ond mae'n fy nghasáu i am fy mod yn tystio fod yr hyn mae'n ei wneud yn ddrwg. 8Ewch chi i'r Ŵyl. Dw i ddim yn barod i fynd i'r Ŵyl eto, am ei bod hi ddim yr amser iawn i mi fynd.” 9Ar ôl dweud hyn arhosodd yn Galilea.

10Fodd bynnag, ar ôl i'w frodyr fynd i'r Ŵyl, daeth yr amser i Iesu fynd hefyd. Ond aeth yno'n ddistaw bach, allan o olwg y cyhoedd. 11Yn yr Ŵyl roedd yr arweinwyr Iddewig yn edrych allan amdano. “Ble mae e?” medden nhw.

12Roedd llawer o siarad amdano'n ddistaw bach ymhlith y tyrfaoedd. Rhai yn dweud ei fod yn ddyn da. Eraill yn dweud ei fod yn twyllo pobl. 13Ond doedd neb yn mentro dweud dim yn gyhoeddus amdano am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig.

Iesu'n dysgu yn yr Ŵyl

14Roedd hi dros hanner ffordd drwy'r Ŵyl cyn i Iesu fynd i gwrt allanol y deml a dechrau dysgu yno. 15Roedd yr arweinwyr crefyddol yn rhyfeddu ac yn gofyn, “Ble cafodd y dyn y fath wybodaeth heb fod wedi cael ei hyfforddi?”

16Atebodd Iesu, “Dim fi biau'r ddysgeidiaeth. Mae'n dod oddi wrth Dduw, yr un anfonodd fi. 17Bydd pwy bynnag sy'n dewis gwneud beth mae Duw eisiau yn darganfod fod beth dw i'n ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, a fy mod i ddim yn siarad ar fy liwt fy hun. 18Mae'r rhai sy'n siarad ohonyn nhw eu hunain yn ceisio ennill anrhydedd iddyn nhw eu hunain, ond mae'r un sy'n gweithio i anrhydeddu'r un wnaeth ei anfon e yn ddyn gonest; does dim byd ffals amdano. 19Oni wnaeth Moses roi'r Gyfraith i chi? Ac eto does neb ohonoch chi'n ufuddhau i'r Gyfraith. Pam dych chi'n ceisio fy lladd i?”

20“Mae cythraul yn dy wneud di'n wallgof,” atebodd y dyrfa. “Pwy sy'n ceisio dy ladd di?”

21Meddai Iesu wrthyn nhw, “Gwnes i un wyrth
7:21 un wyrth: Iacháu y dyn wedi ei barlysu – gw. 5:1-18.
ar y dydd Saboth, a dych chi i gyd mewn sioc!
22Ac eto, am fod Moses wedi dweud fod rhaid i chi gadw defod enwaedu (er mai dim gan Moses ddaeth hi mewn gwirionedd, ond gan dadau'r genedl), c dych chi'n enwaedu bachgen ar y Saboth. 23Nawr, os ydy'n iawn i fachgen gael ei enwaedu ar ddydd Saboth er mwyn peidio torri Cyfraith Moses, pam dych chi wedi gwylltio am fy mod i wedi iacháu rhywun yn llwyr ar y Saboth? 24Stopiwch fod mor arwynebol wrth farnu; barnwch yn gywir bob amser.”

Ai Iesu ydy'r Meseia?

25Roedd rhai o bobl Jerwsalem yn gofyn, “Onid hwn ydy'r dyn maen nhw'n ceisio'i ladd? 26Dyma fe'n siarad yn gwbl agored, a dŷn nhw'n dweud dim! Tybed ydy'r awdurdodau wedi dod i'r casgliad mai fe ydy'r Meseia? 27Ond wedyn, dŷn ni'n gwybod o ble mae'r dyn hwn yn dod; pan ddaw'r Meseia, fydd neb yn gwybod o ble mae'n dod.” 28Roedd Iesu'n dal i ddysgu yng nghwrt y deml ar y pryd, a dyma fe'n cyhoeddi'n uchel, “Ydych chi'n fy nabod i, ac yn gwybod o ble dw i'n dod? Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun. Duw sydd wedi fy anfon i go iawn, a dych chi ddim yn ei nabod e. 29Dw i'n ei nabod e, achos dw i wedi dod oddi wrtho fe. Fe ydy'r un anfonodd fi.”

30Pan ddigwyddodd hyn dyma nhw'n ceisio'i ddal, ond lwyddodd neb i'w gyffwrdd, am fod ei amser iawn ddim wedi dod eto. 31Ac eto, daeth llawer o bobl yn y dyrfa i gredu ynddo. Eu dadl oedd, “Pan ddaw'r Meseia, fydd e'n gallu cyflawni mwy o arwyddion gwyrthiol na hwn?”

32Daeth y Phariseaid i wybod fod sibrydion fel hyn yn mynd o gwmpas. Felly dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid yn anfon swyddogion diogelwch o'r deml i'w arestio.

33Dwedodd Iesu, “Dw i yma gyda chi am amser byr eto, ac wedyn dw i'n mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi. 34Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi. Fyddwch chi ddim yn gallu dod i ble bydda i.”

35Meddai'r arweinwyr Iddewig, “I ble mae'r dyn yma'n bwriadu mynd os fyddwn ni ddim yn gallu dod o hyd iddo? Ydy e'n mynd at ein pobl ni sy'n byw ar wasgar mewn gwledydd eraill, a dysgu pobl y gwledydd hynny? 36Beth mae'n e'n ei olygu wrth ddweud, ‘Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi,’ a ‘Fyddwch chi'n methu dod i ble bydda i’?”

Ffrydiau o ddŵr sy'n rhoi bywyd

37Ar uchafbwynt yr Ŵyl, sef y diwrnod olaf, dyma Iesu'n sefyll ac yn cyhoeddi'n uchel, “Os oes syched ar rywun, dylai ddod i yfed ata i. 38Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd ffrydiau o ddŵr sy'n rhoi bywyd yn llifo o'r rhai hynny!’”
7:38 Bydd ffrydiau … hynny: cyfeiriad at Nehemeia 9:15,19-20 (neu Eseia 55:1, 58:11 neu Sechareia 14:8) Mae'r adnodau yma yn edrych yn ôl at hanesion y dŵr yn dod o'r graig yn Exodus 17:1-7; Numeri 20:1-13
39(Sôn oedd am yr Ysbryd Glân. Roedd y rhai oedd wedi credu ynddo yn mynd i dderbyn yr Ysbryd yn nes ymlaen. Ond doedd yr Ysbryd ddim wedi dod eto, am fod Iesu ddim wedi ei anrhydeddu.)

40Ar ôl clywed beth ddwedodd Iesu, dyma rhai o'r bobl yn dweud, “Mae'n rhaid mai'r Proffwyd
7:40 Proffwyd: gw. y nodyn ar 1:21.
soniodd Moses amdano ydy'r dyn hwn!”

41Roedd eraill yn dweud, “Y Meseia ydy e!” Ond eraill wedyn yn dal i ofyn, “Sut all y Meseia ddod o Galilea? 42Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia i ddod o deulu y Brenin Dafydd, ac o Bethlehem, lle roedd Dafydd yn byw?” f 43Felly roedd y dyrfa wedi eu rhannu – rhai o'i blaid ac eraill yn ei erbyn. 44Roedd rhai eisiau ei arestio, ond lwyddodd neb i'w gyffwrdd.

Yr arweinwyr Iddewig yn gwrthod Iesu

45Aeth swyddogion diogelwch y deml yn ôl at y prif offeiriaid a'r Phariseaid, a gofynnodd y rheiny iddyn nhw, “Pam wnaethoch chi ddim dod ag e yma?”

46“Does neb erioed wedi siarad fel y dyn hwn,” medden nhw.

47“Beth!” atebodd y Phariseaid, “Ydy e wedi'ch twyllo chi hefyd?” 48“Oes unrhyw un o'r arweinwyr neu o'r Phariseaid wedi credu ynddo? 49Nac oes! Dim ond y werin ddwl yma sy'n gwybod dim byd am y Gyfraith – ac maen nhw dan felltith beth bynnag!”

50Roedd Nicodemus yno ar y pryd (y dyn oedd wedi mynd at Iesu'n gynharach), a gofynnodd, 51“Ydy'n Cyfraith ni yn condemnio pobl heb roi gwrandawiad teg iddyn nhw gyntaf er mwyn darganfod y ffeithiau?”

52Medden nhw wrtho “Wyt ti'n dod o Galilea hefyd? Edrych di i mewn i'r peth, dydy proffwydi ddim yn dod o Galilea!”

Dydy Ioan 7:53—8:11 ddim yn y llawysgrifau cynharaf

53Yna dyma nhw i gyd yn mynd adre.

Copyright information for CYM